Elizabeth Gurley Flynn | |
---|---|
Ganwyd | 7 Awst 1890 Concord, New Hampshire |
Bu farw | 5 Medi 1964 Moscfa |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros hawliau merched, ymgyrchydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, undebwr llafur, gwleidydd, cadeirydd plaid wleidyddol, newyddiadurwr, ysgrifennwr, hunangofiannydd |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol UDA |
Partner | Carlo Tresca |
Ffeminist gweithredol, Americanaidd oedd Elizabeth Gurley Flynn (7 Awst 1890 - 5 Medi 1964) a oedd hefyd yn hunangofiannydd, newyddiadurwr, undebwr llafur, ymgyrchydd, a gwleidydd. Ei llysenw oedd "The Rebel Girl".
Fe'i ganed yn Concord, New Hampshire , Unol Daleithiau America, bu farw yn Moscfa, Rwsia ac fe'i claddwyd ym Mynwent Almaenig Waldheim, Chicago.[1][2][3][4]
Roedd Elizabeth Gurley Flynn yn ffeministaidd a chwaraeodd ran flaenllaw o fewn mudiad Gweithwyr Diwydiannol y Byd (Industrial Workers of the World, neu IWW). Roedd Flynn yn un o aelodau gwreiddiol Undeb Hawliau Sifil America, ac roedd yn amlwg iawn o ran hawliau menywod, rheoli cenhedlu, a phleidlais menywod (neu 'etholfraint'). Ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol UDA yn 1926 ac yn hwyr yn ei bywyd, yn 1961, daeth yn gadeirydd y blaid. Bu farw yn ystod ymweliad â'r Undeb Sofietaidd, lle cafodd angladd gwladwriaethol gyda gorymdeithiau yn y Sgwâr Coch, cynhebrwng a fynychwyd gan dros 25,000 o bobl.[5]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search